Tudalen y Pennaeth

Ysgol cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion rhwng 3-11 oed yw Ysgol Gymraeg Blaendulais. Daw tua 130 o blant atom o bentrefi Creunant, Blaendulais, Pantyffordd, Onllwyn a Dyffryn Cellwen.

Mae Ysgol Gymraeg Blaendulais yn gymuned ddiogel, ofalgar lle bydd pob plentyn yn cael cyfle i gyflawni i’w botensial llawn a datblygu’n aelod gwerthfawr o gymdeithas.

Mae’r ysgol, a agorwyd ym 1961, yn ysgol gynradd sy’n cynnig dosbarthiadau oed cymysg a gallu cymysg. Ymfalchiwn yn ein gwaith da fel tîm ac yn y cysylltiadau agos sydd gennym â'r gymuned. Mae datblygiad cymdeithasol, diwylliannol a moesol yn chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol.

Cynhelir nifer o weithgareddau allgyrsiol ar ôl ysgol yng nghlwb yr Urdd e.e. dawnsio disgo, dawnsio gwerin a chôr. Cynhelir clwb rygbi a chlwb gofal ar ôl ysgol hefyd. Daw plant atom o Gylch Meithrin Blaendulais, sy’n derbyn plant o ddwy flwydd oed ymlaen.

Mae gan Ysgol Gymraeg Blaendulais staff balch a gweithgar sy’n cynnwys athrawon, cynorthwy-wyr addysgu a chynorthwy-wyr gweinyddol. Dymunwn y bydd y plant, staff a llywodraethwyr yn gweithio gyda’i gilydd i greu ysgol hapus, gynhyrchiol a symbylol.